
Sesiynau Galw Fewn
Sesiynau Galw Fewn sy'n cael eu hariannu drwy'r Grant Cymorth Tai, lle gallwch gael cymorth, cyngor neu gael eich cyfeirio at wasanaethau eraill – heb fod angen apwyntiad.

Wyt ti'n berson ifanc ac angen ein help?
Gallwn helpu efo:
-
Problemau efo tai
-
Problemau efo teulu neu berthnasoedd
-
Pres, dyledion, budd-daliadau a chyllidebu
-
Dy iechyd a sut wyt ti'n teimlo
-
Problemau efo cyffuriau neu alcohol
-
Teimlo'n saff os wyt yn poeni am dy ddiogelwch
-
Addysg, hyfforddiant neu ddod o hyd i waith
-
Magu hyder a dysgu byw'n annibynnol
-
Deall llythyrau, llenwi ffurflenni a mynd i apwyntiadau
-
Dod o hyd i gymorth lleol neu arbenigol arall
Mae gwasanaeth Galw Fewn gan Cyfle yn cynnig cymorth, cyngor a chefnogaeth am ddim i bobl ifanc 16–24 oed ledled Gwynedd.
Mae Galw Fewn yn cael ei ariannu gan Grant Cymorth Tai Llywodraeth Cymru ac yn helpu pobl ifanc sy'n wynebu anawsterau sy'n effeithio ar eu lles, eu hannibyniaeth neu eu sefyllfa dai. Nid oes rhaid i chi fod yn ddigartref i gael cymorth.
Does dim angen gwneud apwyntiad. Gall pobl ifanc ddod atom ni eu hunain, neu gael eu cyfeirio gan aelod o'r teulu, ysgol, coleg, gweithiwr ieuenctid neu weithiwr proffesiynol arall.
Gall pobl ifanc::
-
Alw fewn i un o'n sesiynau
-
Cyfarfod â ni yn eu tŷ neu yn y gymuned
-
Trefnu i'n gweld yn yr ysgol, y coleg neu mewn lleoliad arall
-
Siarad â ni dros y ffôn
-
Cysylltu â ni drwy'r cyfryngau cymdeithasol neu neges ddiogel
-
Trefnu galwad fideo drwy FaceTime neu Zoom
Byddwn yn gwrando, yn cynnig cyngor a chymorth ymarferol, ac yn eich helpu i gymryd y cam nesaf. Os oes angen cymorth ychwanegol, byddwn yn eich helpu i gysylltu â'r gwasanaeth cywir.
Os ydych chi'n poeni am rywbeth, cysylltwch â ni.