
Pantri Bach
Cefnogi unigolion a theuluoedd drwy ddarparu bwyd fforddiadwy a maethlon, ynghyd â chymorth i ddatblygu sgiliau coginio a chynllunio prydau bwyd.


Wyt ti'n berson ifanc ac angen ein help?
Gallwn help os wyt ti:
-
Efo problemau pres
-
Yn aros am fudd-daliadau neu daliadau eraill
-
Yn cael trafferth efo costau byw cynyddol
-
Yn symud i lety newydd heb fwyd na hanfodion
-
Yn wynebu newidiau annisgwyl
-
Yn methu cael cymorth bwyd arall yn ddigon cyflym
Mae Pantri Bach yn bantri cymunedol Cyfle, sy'n darparu pecynnau bwyd brys i bobl ifanc a theuluoedd sy'n wynebu argyfwng neu galedi ariannol.
Gallwn gynnig cymorth ymarferol ar unwaith pan nad oes gan berson ifanc neu deulu ddigon o fwyd, neu pan fo newid annisgwyl yn eu hamgylchiadau wedi golygu na allant fforddio'r hanfodion. Mae'r pecynnau bwyd yn cynnwys amrywiaeth o eitemau sylfaenol a maethlon i helpu i baratoi prydau syml.
Rydyn ni'n deall y gall gofyn am help fod yn anodd. Mae pob cefnogaeth yn cael ei chynnig yn breifat, gyda pharch a heb feirniadaeth. Ein blaenoriaeth yw sicrhau bod pobl ifanc a theuluoedd yn cael bwyd pan fo'i angen fwyaf.
Yn ogystal â darparu pecyn bwyd brys, gall ein tîm gynnig cyngor ymarferol a helpu pobl i gael mynediad at fudd-daliadau, cymorth gyda chyllidebu, cymorth tai a gwasanaethau lleol eraill.