top of page

Cyfle Iach

Hybu iechyd corfforol a meddyliol drwy weithgareddau awyr agored, symud a chysylltu â byd natur. 

Wyt ti'n berson ifanc ac angen ein help?

Gallwn helpu efo:
 

  • Mynd am dro a chymryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored mewn cwmni da

  • Symud mwy a bod yn fwy egnïol

  • Treulio amser yn yr awyr agored i helpu i deimlo'n well a lleihau straen

  • Datblygu arferion iach

  • Cyfarfod pobl newydd

  • Magu hyder a rhoi cynnig ar bethau newydd

Mae Cyfle Iach yn brosiect iechyd a llesiant, sy'n helpu pobl i deimlo'n well yn gorfforol ac yn feddyliol drwy symud mwy, mynd allan i'r awyr agored a threulio amser ym myd natur.
 

Rydyn ni'n cynnig cyfleoedd cyfeillgar i bobl fod yn fwy egnïol, dod i nabod pobl eraill a chymryd camau bach tuag at fyw bywyd iachach. Does dim rhaid bod yn ffit nac wedi gwneud unrhyw beth fel hyn o'r blaen – mae croeso i bawb, a gallwch gymryd rhan ar eich cyflymder eich hun.
 

Rydyn ni'n edrych ar beth mae pob unigolyn yn ei fwynhau, beth maen nhw'n hoffi ei wneud a beth hoffen nhw ei gael allan o'r prosiect. I rai, efallai mai mynd am dro bach a chael sgwrs gyda phobl eraill yw'r cam cyntaf. I eraill, gallai arwain at roi cynnig ar bethau newydd, cymryd rhan mewn gweithgareddau yn y gymuned neu ddatblygu diddordeb mewn iechyd a ffitrwydd.

Does dim pwysau na chystadleuaeth!

 

Drwy rannu profiadau a chodi calon ein gilydd, rydyn ni'n helpu pobl i fagu hyder a dod i nabod pobl newydd. Ein gobaith yw y bydd y profiadau bach yma'n helpu i wneud gwahaniaeth cadarnhaol a helpu pobl i deimlo'n well dros amser.

Mae Beca, Rheolwr Llety a Chymorth, yn sôn am y gweithgareddau y gall pobl ifanc gymryd rhan ynddyn nhw gyda Cyfle.

bottom of page