top of page

Cefnogaeth Symudol 

Cefnogi pobl ifanc sy'n wynebu digartrefedd neu sy'n cael trafferth cadw eu cartref.

fflat

Wyt ti'n berson ifanc ac angen ein help?

Gallwn dy helpu efo:

  • Dod o hyd i lety addas a helpu i'w gadw

  • Rheoli arian, dyledion a chyllideb

  • Deall biliau, budd-daliadau, llythyrau a ffurflenni

  • Mynd i apwyntiadau meddygol

  • Datblygu sgiliau i redeg y cartref

  • Magu hyder a sgiliau i fyw'n annibynnol

  • Cyfleoedd addysg, hyfforddiant, gwirfoddoli neu waith

  • Cysylltu efo gwasanaethau a chyfleoedd eraill yn y gymuned

Yn Cyfle, mae ein gwasanaeth Cefnogaeth Symudol yn cynnig cymorth hyblyg ac ymarferol i bobl ifanc sy'n ddigartref, mewn perygl o fod yn ddigartref, neu sydd angen help i gadw eu cartref.


Mae'r gwasanaeth yn cael ei ariannu drwy Grant Cymorth Tai Llywodraeth Cymru. Rydym yn cynnig help sy'n addas i anghenion pob unigolyn, gan gyfarfod â phobl ifanc yn eu cartref, yn y gymuned neu efo ein sesiynau Galw Fewn gan Cyfle.

 

Rydyn ni'n gwrando, yn cynnig cymorth ac yn helpu pobl ifanc i symud ymlaen. Gyda'n gilydd, rydyn ni'n llunio cynllun sy'n addas iddyn nhw.
 

Gall ein cymorth gael ei addasu wrth i anghenion y person ifanc newid. Gall fod am gyfnod byr neu dros gyfnod hirach. 
 

Ein nod yw helpu i atal digartrefedd a rhoi'r hyder, y gefnogaeth a'r sgiliau sydd eu hangen ar bobl ifanc i adeiladu dyfodol sefydlog.

bottom of page