top of page

Cam Cynta

Helpu rhieni ifanc drwy gynnig cymorth ymarferol, emosiynol a chymdeithasol mewn amgylchedd diogel a chroesawgar.

the-national-lottery-fund-full-colour-lo
het-plu.png

Wyt ti'n berson ifanc ac angen ein help?

​Gallwn dy helpu efo:
 

  • Cael cymorth a chyngor efo magu plant

  • Cymryd rhan mewn gweithgareddau efo dy blentyn 

  • Cael help efo dy iechyd meddwl a lles

  • Magu hyder a dysgu sgiliau defnyddiol ar gyfer bywyd bob dydd

  • Cyfarfod rhieni ifanc eraill a gwneud ffrindiau newydd

  • Cael help efo addysg, hyfforddiant, gwirfoddoli neu chwilio am waith

  • Cael gwybod am wasanaethau a chymorth lleol

  • Mwynhau gweithgareddau teuluol, teithiau a phrofiadau newydd

Mae Cam Cynta yn brosiect sy'n cael ei ariannu gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.
 

Rydyn ni'n cynnig cymorth ymarferol, emosiynol a chymdeithasol i rieni ifanc. Drwy sesiynau grŵp a chymorth un i un, rydyn ni yn eu helpu i fagu hyder, dysgu sgiliau newydd a ffynnu fel rhieni ac fel unigolion.
 

Rydyn ni'n teimlo ei bod yn bwysig i helpu rhieni ifanc i fod yn rhan o gymuned gefnogol. Mi allwn ni gynnig lle diogel i rieni rannu profiadau, gwneud ffrindiau a chefnogi ei gilydd.
 

Rydyn ni hefyd yn annog teuluoedd i gymryd rhan yn eu cymuned leol drwy weithgareddau, digwyddiadau, prosiectau creadigol, heriau lles a'n rhandir cymunedol.
 

Mi allwn ni eich helpu i gymryd y cam cyntaf tuag at ddyfodol hapusach i chi a'ch teulu.

Catrin - Cam Cynta
Hayley - Cam Cynta

Dyma Catrin a Hayley yn trafod sut mae Cam Cynta wedi eu helpu fel rhieni ifanc.

bottom of page