
Llety a Chymorth
Darparu llety diogel a chefnogol i bobl ifanc, gan eu helpu i ddatblygu'r sgiliau sydd eu hangen i fyw'n annibynnol ac adeiladu dyfodol cadarnhaol.

Wyt ti'n berson ifanc ac angen ein help?
Gallwn helpu efo:
-
Cael lle diogel i fyw
-
Dysgu sut i ofalu am dy gartref
-
Rheoli arian a biliau
-
Coginio a phethau bob dydd
-
Mynd i apwyntiadau
-
Deall dy denantiaeth
-
Magu hyder a bod yn fwy annibynnol
-
Addysg, hyfforddiant neu waith
-
Cael cymorth gyda iechyd a gwasanaethau lleol eraill
-
Paratoi i symud i dy gartref dy hun
Rydyn ni'n cynnig llety diogel i bobl ifanc, gan eu helpu i ddysgu'r sgiliau sydd eu hangen i fyw'n annibynnol a symud ymlaen i'w cartref eu hunain.
Yn Cyfle, rydyn ni'n cynnig llety gyda chymorth hyblyg i helpu pobl ifanc i fagu hyder a dysgu sut i reoli eu cartref a'u tenantiaeth.
Gallwn ni helpu gyda phethau bob dydd fel rheoli arian, coginio, cadw cartref, trefnu apwyntiadau a deall eu hawliau a'u cyfrifoldebau.
Rydyn ni hefyd yn gallu helpu gyda addysg, hyfforddiant, gwaith, gwasanaethau iechyd a chymorth yn y gymuned.
Rydyn ni yma i helpu pobl ifanc i fagu hyder, dysgu sgiliau newydd a bod yn fwy annibynnol, fel eu bod nhw'n barod i symud ymlaen a dechrau'r bennod nesaf.