top of page

Ein Gwasanaethau

Mae Cyfle yma i gefnogi unigolion a theuluoedd ledled Gwynedd. Rydym yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau – o gymorth tai a phecynnau bwyd i lesiant a chefnogaeth i rieni – gan helpu pobl i feithrin hyder, byw'n fwy annibynnol a chreu dyfodol mwy sefydlog.

shop

Llety a Chymorth

Gallwn ddarparu llety diogel a sefydlog i bobl ifanc fel eu bod yn datblygu'r sgiliau sydd eu hangen arnynt i fyw'n annibynnol ac i symud ymlaen yn hyderus i'w tenantiaeth eu hunain.

 

Mae'r gwasanaeth yn cyfuno llety a chymorth hyblyg, gan helpu pobl ifanc i feithrin y sgiliau ymarferol ac emosiynol sydd eu hangen i reoli tenantiaeth yn llwyddiannus a byw'n annibynnol.

​​

Anchor 1
fflat

Cefnogaeth Symudol

(GCT Grant Cymorth Tai)

Mae Cyfle Cyf yn darparu'r gwasanaeth Cefnogaeth Symudol, sy'n cael ei ariannu drwy'r Grant Cymorth Tai gan Lywodraeth Cymru.
 

Ein nod yw cefnogi pobl sy'n ddigartref neu mewn perygl o fod yn ddigartref i ddod o hyd i lety addas, ei sicrhau, a'i gynnal, gan eu helpu i adeiladu dyfodol mwy sefydlog.

Anchor 1
advice

Sesiynau Galw Fewn

Mae ein Sesiynau Galw Fewn yn cynnig cefnogaeth hygyrch, anffurfiol a hyblyg i bobl ifanc sydd angen cyngor neu gymorth.

 

Does dim angen gwneud apwyntiad ymlaen llaw – gallwch alw fewn ar adeg sy'n gyfleus i chi i gael y gefnogaeth sydd ei hangen arnoch.

Anchor 1
het-plu.png

Cam Cynta

Mae Cam Cynta yn brosiect sy'n cefnogi rhieni ifanc drwy gynnig cymorth ymarferol, emosiynol a chymdeithasol mewn amgylchedd diogel, croesawgar a chefnogol.

 

Nod y prosiect yw helpu rhieni ifanc i feithrin hyder, gwydnwch a sgiliau bywyd, gan eu galluogi i ffynnu yn eu rôl fel rhieni ac yn eu bywydau bob dydd.

Anchor 1
pantribach_edited.jpg

Pantri Bach

Mae Pantri Bach yn cefnogi unigolion a theuluoedd drwy ddarparu bwyd fforddiadwy a maethlon, a'u helpu i fagu hyder yn y gegin a gwneud y gorau o'u bwyd.

Anchor 1
Sandy Beach_edited.jpg

Cyfle Iach

Mae Cyfle Iach yn brosiect llesiant sy'n hybu iechyd corfforol a meddyliol drwy weithgareddau awyr agored, ymarfer corff a mwynhau byd natur.

 

Nod y prosiect yw helpu pobl i wella eu lles, meithrin hyder a gwydnwch, a datblygu arferion iach mewn ffordd gynhwysol a chefnogol.

Anchor 1
bottom of page