top of page

Ein Gwaith yn y Gymuned

Yn Cyfle Cyf, rydyn ni'n mwynhau gweithio efo ein cymunedau lleol i greu cyfleoedd, cefnogi prosiectau lleol a dod â phobl at ei gilydd.
 

Dros y blynyddoedd ddiwethaf, rydyn ni wedi bod yn rhan o nifer fawr o brosiectau yn yr ardal, gan weithio efo sefydliadau lleol, grwpiau cymunedol a busnesau, i gyflawni pethau sy'n gwneud gwahaniaeth go iawn. Mae hynny yn cynnwys cefnogi digwyddiadau, datblygu syniadau newydd neu helpu ein cymuned i dyfu. 
 

Rydyn ni'n falch iawn o fod wedi cael y cyfle i weithio efo sefydliadau gwych, gan gynnwys:

  • She Ultra

  • Y Tŵr

  • Hwyl yr Ŵyl

  • GwyrddNi

  • Ffrindiau Pwllheli

  • Blacksheep Events

  • Pen y Bryn

  • O Ddrws i Ddrws
     

I gael manylion am ein digwyddiadau a phrosiectau, ewch draw i'n tudalen Facebook a dilynwch ni.

bottom of page