top of page

Pwy Ydym Ni

Mae Cyfle Cyf yn sefydliad nid-er-elw sydd wedi'i leoli yng Ngwynedd sydd yn cefnogi pobl ifanc 16–25 oed sy'n ddigartref, mewn perygl o fod yn ddigartref, neu sy'n wynebu heriau wrth gymryd y camau cyntaf tuag at fyw'n annibynnol.

 

Rydym yma i helpu pobl ifanc drwy ddarparu gwasanaethau hanfodol, gan gynnwys cyngor yn ein sesiynau Galw Fewn, Cefnogaeth Symudol yn y gymuned, a Llety a Chymorth i'w helpu i ddatblygu'r sgiliau sydd eu hangen i fyw'n annibynnol.

 

Rydym yma i ddarparu amgylchedd diogel, croesawgar a chefnogol lle gall pobl ifanc fagu hyder, datblygu a ffynnu.

y-tim

Yn Cyfle, rydyn ni'n credu bod gan pob person ifanc yr hawl i adeiladu dyfodol sefydlog, datblygu ei botensial a fod yn rhan o'r gymuned.

Our Mission

Ein Cenhadaeth

Darparu amgylchedd diogel, cefnogol a chynhwysol lle gall pobl ifanc gael yr help sydd ei angen arnynt i oresgyn heriau, magu hyder a datblygu'r sgiliau i fyw'n annibynnol.

jane
ellie

Ein Gweledigaeth

Ein gweledigaeth yw cymuned lle mae pob person ifanc yn cael y cyfle i ffynnu. Rydyn ni'n credu y dylai pawb gael mynediad at y gefnogaeth a'r adnoddau sydd eu hangen arnynt i adeiladu dyfodol cadarnhaol a byw bywyd llawn.

Eisiau gwybod mwy? Cysylltwch!

bottom of page